P-05-724 P-05-724 Hawliau i ofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 07.10.19

 

 

Annwyl Glerc y Pwyllgor Deisebau

 

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 

Diolch am eich gwahoddiad dyddiedig 2 Hydref 2019 i gynnig sylwadau ar ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu ar Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

 

Rydym yn cadarnhau bod y Gweinidog wedi trafod pob un o’r argymhellion yn ei ymateb.

 

Argymhelliad 1

Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor yn nodi fod rhai aelodau o’r farn y dylai’r Llywodraeth ddiddymu’r Rheoliadau, ond nid oedd eraill o’r un farn.  Er hynny, cytunodd yr holl aelodau y dylid diwygio'r Rheoliadau yn dilyn ymgynghoriad llawn; ac mae’r Gweinidog yn gosod addewid i weithredu camau o’r fath. Bwriad deiseb y Gymdeithas oedd galw am newid Safonau’r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithadwy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg. Am hynny, rydym yn galw am addewid pendant y bydd y Rheoliadau yn cael eu cryfhau erbyn 2020/21; ac y bydd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol.  

 

Argymhelliad 2

Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor, mae’r Gweinidog yn cyflwyno addewid i ganiatáu amser ar gyfer gwaith craffu rheoliadau am y defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol, gan hysbysu ac ymgysylltu â'r pwyllgor penodol ar gyfer y pwnc dan sylw, ond hefyd â'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gynharach yn y broses.  Tra rydym yn croesawu addewid o’r fath, mae’n rhaid tynnu eich sylw at y ffaith bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, eisoes wedi cynnig yr un addewid i’r Pwyllgor.  Mae diffyg parodrwydd y Llywodraeth i wireddu addewidion yn peri gofid i ni fel Cymdeithas ac yn tanseilio’r broses ddemocrataidd.

Cwestiwn: Faint o amser a neuilltir ar gyfer y gwaith craffu o hyn ymlaen? Yn ystod pa gam o’r broses caiff y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eu hysbysu?

 

Argymhelliad 3

Rydym yn croesawu’r addewid i gyflwyno Memorandwm Esboniadol dwyieithog o hyn ymlaen.

 

Argymhelliad 4

Rydym yn croesawu’r addewid y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ddatblygu’r capasiti i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar draws y sector gyhoeddus. Ym maes iechyd, mae dirfawr angen cynllunio gweithlu ar sail anghenion ieithyddol y boblogaeth er mwyn mynd ati i weithredu’r ‘cynnig rhagweithiol’ yn llwyddiannus. Am hynny, wrth gomisiynu’r addysg, mae angen gosod targedau clir ar gyfer recriwtio nifer digonol o siaradwyr Cymraeg ar gyfer gweithlu'r dyfodol; sicrhau fod rhaglenni proffesiynol ar gael trwy’r Gymraeg ar draws y disgyblaethau er mwyn sefydlu’r sgiliau iaith angenrheidiol ar gyfer ymarfer mewn sefyllfa ddwyieithog: a gwella sgiliau Cymraeg a hyder y gweithlu presennol.

Cwestiwn: A fydd y Gweinidog yn rhoi sylw manwl i’r anghenion hyn wrth adolygu Cymru Iachach: Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Addysg a Gwella Iechyd Cymru / Gofal Cymdeithasol Cymru, 2019)?

 

Argymhelliad 5

Rydym yn croesawu’r addewid i gynnal ymgyrch i addysgu darparwyr gofal sylfaenol annibynnol am eu dyletswyddau newydd, gan gynnwys cynnal arolwg; paratoi pecyn cymorth ar gyfer gofal sylfaenol; a chynllun peilot Cymraeg byd busnes.

Cwestiwn: Beth yw’r amserlen ar gyfer y mentrau hyn?

 

Argymhelliad 7

Rydym yn croesawu’r bwriad i ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol y Byrddau Iechyd i egluro cyfrifoldebau'r byrddau iechyd lleol o ran cwrdd â chostau darparwyr gofal sylfaenol annibynnol o ganlyniad i gydymffurfio â'r Rheoliadau.

 

 

Argymhelliad 8

Rydym yn croesawu’r bwriad i gynnal adolygiad ar weithredu ac effaith y dyletswyddau yn ystod haf 2020/21; a thrafod y dull gweithredu priodol gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Er hynny, mae’n rhaid pwysleisio mai bwriad deiseb y Gymdeithas oedd galw am newid Safonau’r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithadwy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg. Am hynny, rydym yn galw am addewid pendant y bydd y Rheoliadau yn cael eu cryfhau erbyn 2020/21; ac y bydd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol.  

 

 

 Yr eiddoch yn gywir

 

Gwerfyl Roberts

Cadeirydd

Is-grŵp Iechyd

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg